Dorothy Williams gerllaw gwesty'r Harbourmaster lle bydd ei phryd ar y fwydlen

Dorothy Williams o Lanbedr Pont Steffan yw enillydd cyntaf y gyfres goginio newydd Brwydr y Fwydlen ar S4C.

Fel ei gwobr, bydd ei phryd o fwyd buddugol ‘Tafod y Ddraig’, sef cig oen gyda llysiau a saws mwstard, yn ymddangos ar fwydlen gwesty’r Harbourmaster yn Aberaeron.

“Doeddwn i ddim yn gallu credu mod i wedi ennill! Dyw pethau fel hyn ddim yn digwydd i fi,” meddai.

Mae hi’n un o dair menyw leol sy’n rhedeg y cwmni Cwca Cartref, yn gwerthu cacennau a bwydydd cartref mewn marchnadoedd ffermwyr yn yr ardal.

Ar y rhaglen nos Iau, roedd y cystadlewyr yn gorfod paratoi eu bwyd yn erbyn y cloc ac yng nghegin broffesiynol bwyty’r Harbourmaster yn Aberaeron

“Coginio cartref bydda i’n ei wneud. Roedd profiad y rhaglen yn hollol wahanol. Roedd y gegin gymaint mwy o faint a’r ffyrnau gwahanol ac oni’n meddwl wrth fy hunan sut ydw i’n mynd i wneud hynna,” meddai Dorothy. “Sai’n cofio lot am baratoi’r bwyd. Y cwbl wy’n cofio yw rhywun yn dweud bod dwy funud i fynd ac o’n i ffaelu credu’r peth!”

Cynnyrch lleol

Wrth feirniadu, roedd perchennog y bwyty, Menna Heulyn a’r prif gogydd Kelly Thomas wedi eu plesio gyda’r ffaith bod Dorothy wedi defnyddio cynnyrch lleol.

“Oni’n meddwl bod cyfuniad da iawn o gynnyrch lleol. Roedd hi wedi gwneud tipyn o ymchwil, ac o’n i’n hoffi’r ffordd oeddech chi wedi gosod y llysiau a’r tato o dan y cig,” meddai Menna, sydd wedi rhedeg gwesty’r Harbourmaster gyda’i gwr Glyn ers deng mlynedd.

Mae’r rhaglen Brwydr y Fwydlen i’w gweld ar S4C bob nos Iau am 8.25