Ar drothwy Gŵyl Cerdd Dant 2012 sy’n cael ei chynnal yn Venue Cymru, Llandudno yfory, mae’r trefnwyr wedi cytuno gydag S4C i ymestyn y cytundeb darlledu am ddwy flynedd ymhellach.
Yr Ŵyl Cerdd Dant yw gŵyl gystadleuol undydd fwyaf Ewrop ac mae’n rhoi llwyfan i draddodiadau gwerinol Cymru bob blwyddyn.
Mae’r ŵyl – sydd yn cael ei chynnal bob mis Tachwedd yn y de a’r gogledd am yn ail flwyddyn – yn denu dros fil o gystadleuwyr i gymryd rhan mewn rhagor na 30 o gystadlaethau.
Mae S4C yn darlledu’r Ŵyl Gerdd Dant ers dros chwarter canrif ac mae’r rhan fwyaf o’r cystadlu yn cael ei dangos yn fyw ar y Sianel. Mae yna hefyd raglenni uchafbwyntiau a rhaglen yn dangos y gorau o gystadleuaeth Talwrn y Beirdd yr ŵyl.
Meddai Dewi Jones, Trefnydd yr Ŵyl Cerdd Dant, “Rwy’n falch iawn bod S4C yn cydnabod pwysigrwydd yr ŵyl fel digwyddiad diwylliannol o bwys cenedlaethol trwy ymroi i’w darlledu am ddwy flynedd arall.”