Jack a Vera Duckworth
Mae un o sêr Coronation Street wedi marw. Roedd Bill Tarmey, fu’n portreadu’r cymeriad Jack Duckworth, yn 71 oed.

Mi adawodd yr opera sebon yn 2010 ar ôl treulio dros 30 mlynedd yn actio cnaf annwyl oedd yn mwytho colomenod ac yn ŵr i Vera Duckworth.

Yn ysmygwr trwm gydol ei oes, fe ddioddefodd drawiad fach ar ei galon yn dilyn llawdriniaeth ddeng mlynedd yn ôl.

Credir ei fod wedi marw tra ar wyliau teulu yn Nhenerîff.

Seren bop


Bu i tua 11 miliwn o bobol wylio ymadawiad Jack Duckworth ar Coronation Street ddwy flynedd yn ôl, pan y bu iddo farw yn ei gadair freichiau  yn dilyn un ddawns ola’ gyda’i wraig Vera.

Yn 1993 fe gafodd Bill Tarmey lwyddiant yn y siartiau pop, yn cyrraedd rhif 16 gyda ‘One Voice’, a rhif 40 gyda’i fersiwn o ‘Wind Beneath My Wings’ y flwyddyn wedyn.

Mae Jack P Shepherd, sy’n portreadu David Platt, wedi trydar: “Newydd glywed am farwolaeth Bill newyddion trasig i bawb #RIPBILL”.