Protest yn Syria adeg dechrau'r helyntion
Fe fu ymladd caled yn yr oriau ola’ cyn cyfnod o heddwch yn Syria.

Fe gytunodd Arlywydd y wlad i gynnal cadoediad tros gyfnod gŵyl Eid al-Adha ond maen nhw wedi rhybuddio hefyd y byddan nhw’n taro’n ôl os bydd gwrthryfelwyr yn ymosod.

Roedd gwasanaeth newyddion Al Jazeera’n sôn am ymladd yn rhai o brif ddinasoedd y wlad, gan gynnwys Damascus ac Aleppo.

Llysgennad y Cenhedloedd Unedig, Lakhdar Abimi, oedd wedi galw am y cadoediad a fydd yn parhau am bedwar niwrnod.