Jimmy Savile yn yr 1980au (William Starkey CCA2.0)
Mae’r heddlu yn achosion cam-drin Jimmy Savile yn dweud eu bod yn barod i ddechrau arestio rhai pobl eraill.
Y disgwyl yw y gallen nhw gynnwys enwau mawr ym myd adloniant ac y byddan nhw’n cael eu holi am gam-drin neu am helpu’r cyn DJ a seren deledu.
Fe allai hynny hefyd gynyddu’r pwysau ar y BBC gan fod rhai o’r troseddau honedig wedi digwydd ar eiddo’r Gorfforaeth.
Erbyn hyn, mae’n bosib fod cymaint â 300 o bobol wedi cael eu cam-drin gan Jimmy Savile a’r mwyafrif llethol yn ferched ifanc.
Yn ôl pennaeth ymchwiliad yr heddlu, fe allai hwn fod yn “drobwynt” yn hanes cam-drin rhywiol.