Reginald Davies (llun heddlu)
Fe fydd hen ŵr o Gymro’n cael ei ddedfrydu heddiw am y troseddau hynaf erioed i ddod gerbron llys yng Nghymru a Lloegr.
Mae Reginald Davies, 78 oed, sydd wedi bod yn byw yn Awstralia ers blynyddoedd, wedi cael rhybudd i ddisgwyl dedfryd hir ar ôl ei gael yn euog o gam-drin pedair merch fach rhwng 1949 ac 1973.
Fe ddigwyddodd y troseddau pan oedd y cyn filwr yn byw yn ne Cymru ac fe gafodd ei arestio yn 2008 ar ôl i ddwy o’r merched fynd i Awstralia i’w wynebu. Roedd y merched adeg y troseddau rhwng 9 ac 16 oed.
Ac yntau rhwng 15 a 39 oed ar y pryd, fe gafwyd Reginald Davies yn euog o ddwy drosedd o dreisio plentyn, dwy arall o geisio treisio, wyth trosedd o ymyrryd anweddus ac un o ymddygiad anweddus gyda phlentyn.
Mae’r heddlu’n credu mai dyma’r troseddau hyna’ erioed i ddod gerbron llys yng Nghymru a Lloegr. Fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Kingston ger Llundain.