Canol Caerdydd (o ddogfen y cyngor)
Mae’r dadlau wedi dechrau ar ôl i Gyngor Dinas Caerdydd gefnogi cynlluniau i adeiladu mwy na 45,000 o dai newydd.
Fe fyddai hynny’n codi poblogaeth y ddinas i bron 400,000 o fewn 14 blynedd, gyda dwy faestref fawr newydd y naill ochr a’r llall i’r ddinas.
Fe fyddai’r ddwy faestref yn golygu 7,500 o dai ger Pentrebane a thua 8,000 yn ardal Pontprennau.
Ond mae peth o’r gwrthwynebiad tros fwriad i ganiatáu 750 o dai newydd ger pentre’ Creigiau, sydd ar hyn o bryd yn gymharol wledig.
Mae dadlau hefyd oherwydd y byddai llawer o’r tai newydd yn cael eu codi ar dir glas ac oherwydd y pwysau posib ar systemau trafnidiaeth.
Mae rhai cynghorwyr hefyd wedi codi cwestiynau am effaith y datblygiadau ar y Cymoedd ac ardaloedd cyfagos.
Dadl y Cyngor
Yn ôl Cyngor y Ddinas, sydd dan reolaeth y Blaid Lafur, mae angen rhagor o dai er mwyn ymateb i alw a sicrhau ffyniant economaidd y ddinas.
Maen nhw’n dadlau fod prinder mawr o dai newydd wedi bod i deuluoedd ac nad oes digon o dir ar gael ar gyfer adeiladu.
Maen nhw hefyd yn dweud nad oes gan y Cyngor Gynllun Datblygu Unedol ac, oherwydd hynny, mae llai o rym i warchod ardaloedd pwysig.
Yn ôl dirprwy arweinydd y Cyngor, Ralph Cook, yng Nghaerdydd, nid y Cymoedd y mae llawer o fusnesau eisiau bod ac mae angen system drafnidiaeth Metro ar gyfer y ddinas a’r ardaloedd cyfagos.