Prifysgol Bangor
Mae myfyrwraig o Wlad Belg sy’n astudio ar gyfer doethuriaeth mewn Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Bangor wedi ennill gwobr Ewropeaidd.

Greta Anthoons yw enillydd Gwobr Johann Kaspar Zeuss y Gymdeithas Astudiaethau Celtaidd Ewropeaidd am y traethawd gorau ym maes Astudiaethau Celtaidd eleni.

Mae hi wedi ennill gwobr o €750 am y traethawd hir gorau ar lefel MA a PhD.

Pwnc ei thraethawd yw ‘Mudo a rhwydweithiau élit fel modd o gyfnewid diwylliannol yn Ewrop yn yr Oes Haearn’ yng nghyd-destun y diwylliant Arras.

Cwblhaodd hi’r gwaith o dan arweiniad yr Athro Raimund Karl yn yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, ar ôl i’r ddau gwrdd mewn cynhadledd.

Bu’n canolbwyntio’n bennaf ar y cyswllt rhwng claddu cerbydau rhyfel yn Nwyrain Swydd Efrog a’r cyfandir.

‘Rhynglwadol’

Dywedodd yr Athro Raimund Karl: “Yr hyn sy’n arbennig o galonogol i ni yn yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg yw mai dyma’r tro cyntaf i’r wobr gael ei dyfarnu i ddoethuriaeth sy’n delio gyda phwnc archeolegol, sydd hefyd yn defnyddio ffynonellau hanesyddol hynafol, a ffynonellau llenyddol o’r oesoedd canol.

“Mae hyn yn dangos  cryfder cyffredinol yr Astudiaethau Celtaidd rhyngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Bangor.”

Dywedodd Greta Anthoons: “Roedd Yr Athro Karl a’i wraig yn ffantastig ac rwy’n wir ddiolchgar am eu croeso.

“Roeddwn hefyd wrth fy modd gyda’r awyrgylch braf yn y llyfrgell a’r staff a oedd mor barod i helpu.

“A dweud y gwir, mae Bangor yn lle gwych i astudio.”

“Mae pwnc fy nhraethawd yn rhyngwladol, felly hefyd y cyfranwyr: rwyf i’n dod o Wlad Belg, mae fy ngoruchwyliwr o’r Awstria ac mi gyflawnais fy noethuriaeth yng Nghymru!”