Yr Arlywydd Bashar Assad
Mae byddin Syria wedi cyhoeddi y bydd yn dod â’r brwydro i ben yn ystod yr ŵyl Foslemaidd, Eid al-Adha.
Bydd y cadoediad yn dechrau fory ac yn para pedwar diwrnod.
Ond fe fydd yr ymdrechion i ymateb i ymosodiadau ac i atal y gwrthryfelwyr rhag ennill tir yn parhau os bydd angen.
Dadleua llysgennad rhyngwladol Syria, Lakhdar Brahimi y gallai’r cadoediad arwain at gadoediad hirach a rhagor o gyfaddawdu rhwng y gwrthryfelwyr a llywodraeth Arlywydd Bashar Assad.
Ond mae’r gwrthryfelwyr wedi datgan nad ydyn nhw’n ymddiried yn Assad gan ei fod wedi torri addewidion ynghylch cadoediad yn y gorffennol.
Mae yna adroddiadau bod mwy na 35,000 o bobl wedi cael eu lladd ers i’r ymladd yn Syria ddechrau ym mis Mawrth 2011.