Mae Plaid Cymru wedi dweud na ddylai Cymru dderbyn arfau niwclear pe bai’r Alban yn rhydd rhagddyn nhw ymhen ychydig fisoedd.
Yn ôl adroddiad gan y Pwyllgor Materion Albanaidd, gallai’r Alban wrthod arfau niwclear pe baen nhw’n llwyddo i sicrhau annibyniaeth.
Byddai’r taflegrau Trident yn cael eu hadleoli pe bai’r Alban yn eu gwrthod.
Ond mae Plaid Cymru wedi dadlau nad oes lle iddyn nhw yng Nghymru pe bai hynny’n digwydd.
Yn y gorffennol, mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi awgrymu y byddai Aberdaugleddau yn safle addas ar eu cyfer.
Ond mae protestiadau wedi bod gan drigolion lleol i’r cynllun hwnnw.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: “Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu arfau niwclear. Mae Llywodraeth y DG eisiau gwario £100 biliwn ar yr arfau dinistriol hyn pan fo gwasanaethau cyhoeddus mewn perygl.
“Yr ydym yn falch fod pobl yr Alban wedi derbyn sicrwydd y gall eu cenedl fod yn rhydd o arfau niwclear ymhen misoedd, os byddant yn pleidleisio o blaid annibyniaeth.
“Fodd bynnag, mae Prif Weinidog Cymru wedi gwahodd Llywodraeth y DG i leoli’r arfau angau hyn yng Nghymru.
“Buasai rhoi’r gorau i raglen Trident yn rhyddhau biliynau o bunnoedd y gellid eu gwario ar wella bywydau ein pobl. Dychmygwch y gwahaniaeth fyddai buddsoddiad o’r maint hwnnw yn ei wneud.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae amddiffyn yn fater sydd heb ei ddatganoli. Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd fflyd Trident Prydain yn aros yn yr Alban.”