Jimmy Savile
Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i honiadau yn erbyn Jimmy Savile yn dweud eu bod yn delio gyda 300 o bobl sy’n honni eu bod wedi cael eu cam-drin ganddo.

Yn ol Scotland Yard mae pob un o’r dioddefwyr, ar wahân i ddau, yn ferched.

Dywedodd y Comander Peter Spindler  eu bod nhw wedi siarad â 130 o bobl a bod 114 o gyhuddiadau o ymddygiad troseddol wedi dod i’r amlwg.

Ychwanegodd bod yr honiadau yn gysylltiedig â Savile, ond roedd rhai yn ymwneud ag eraill a allai fod yn gweithredu gyda’r cyflwynydd teledu.

Mae wedi canmol y dioddefwyr am gysylltu â’r heddlu.

‘Deja vu’

Yn y cyfamser, mae’r honiadau am Jimmy Savile wedi dod ag atgofion yn ôl i un o’r bobol ifanc a gafodd ei gam-drin gan yr athro a’r awdur John Owen.

Mewn cyfweliad â Golwg yr wythnos hon, dywedodd y dyn ifanc fod y profiad o wylio’r stori’n torri “fel déjà vu”.

Cafodd John Owen, athro yn Ysgol Gyfun Rhydfelen ac awdur y gyfres deledu Pam Fi Duw? ei gyhuddo o gam-drin pobol ifanc, ond fe gyflawnodd hunanladdiad cyn i’r achos yn ei erbyn gyrraedd y llys.

“Mae pethau fel hyn yn dueddol o ddilyn patrymau. Yn achos John Owen roedd lot o bobol yn amau, ac ar ôl i bobol ddod allan ar ôl blynyddau, dyma lot o bobol yn dweud ‘O ie… o’n i’n amau’.

“Mae’r holl beth yn shocking ond eto dyw e ddim… ddim i fi.”

“…Dw i’n meddwl bod Jimmy Savile wedi mynd i’w fedd yn chwerthin tipyn bach bod neb wedi’i ddal.

“Mae pobol yn creu cult o gwmpas eu hunain ac yn meddwl y gallan nhw beidio cael eu twtsiad – Savile gyda’i waith elusennol a John Owen gyda’i bethau tuag at y Gymraeg. Maen nhw’n gwneud eu hunain bron yn untouchable o gwmpas criw o bobol.

“Ar ôl popeth fi’n meddwl bod pobol yn deall nawr. Ond mae’r holl beth mor debyg.”

Gellir darllen rhagor o’r cyfweliad yn rhifyn Golwg yr wythnos hon.