Mae cymdeithas sy’n cynrychioli cynhyrchwyr teledu annibynnol yng Nghymru wedi mynegi pryder fod Ymddiriedolaeth y BBC yn gorfodi S4C i wneud rhagor o doriadau.

Wrth ymateb i ymgynghoriad ar y gydberthynas rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac S4C dywed Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) fod S4C yn cael eu gorfodi i wneud rhagor o doriadau, “er i S4C dderbyn toriad sylweddol yn eu cyllideb, a’u bod wedi gwneud arbedion sylweddol eisoes.”

Yn ôl TAC ni ddylai S4C gael ei drin fel rhan o’r BBC, ac ni ddylai Ymddiriedolaeth y BBC ddefnyddio gwariant 2012 fel ffon fesur gan fod S4C wedi gwneud toriadau eisoes erbyn hynny.

Bydd cyfraniadau Ymddiriedolaeth y BBC tuag at S4C yn disgyn o £76.3m yn 2013-14 i £74.5m yn 2016-17.

Mae Adran Ddiwylliant Llywodraeth Prydain wedi cytuno i roi £6.7m yn 2013-14 a £7m yn 2014-15 ond nid oes sicrwydd a ddaw mwy gan Lundain wedi hynny.

Annibyniaeth S4C

Dywed TAC eu bod nhw’n croesawu llawer o’r ddogfen ymgynghori ar y cytundeb rhwng y BBC ac S4C, ond bod ganddyn nhw “bryderon am nifer o bwyntiau.”

Un o’r rhain  yw cymal sy’n caniatáu i Ymddiriedolaeth y BBC “leihau neu atal” cyllid i S4C mewn sefyllfa eithriadol, heb orfod cyfeirio’r mater at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon. Yn ôl TAC mae hyn yn gwrth-ddweud datganiadau am annibyniaeth S4C ac yn rhoi “cyfrifoldeb anferthol” yn nwylo’r Ymddiriedolaeth y BBC.

Dywedodd cadeirydd TAC, Iestyn Garlick, fod “TAC yn gwerthfawrogi’r ffaith fod llunio’r ddogfen ddrafft o’r Cytundeb wedi bod yn broses hirfaith, ac efallai taw dyna un rheswm pam fod diffygion mewn rhai mannau fyddai yn gwarantu fod gan S4C drefniant gweithredu clir na ellir ymyrryd ag o gan neb ond y Llywodraeth.

“Mi fydd cyflwyno’r newidiadau yr ydym yn eu cynnig, yn caniatáu i bawb sydd â rhan yn nyfodol S4C, gan gynnwys y cynhyrchwyr annibynnol sy’n cael eu comisiynu gan S4C, i barhau gyda’n gwaith heb orfod delio gyda’r ansicrwydd a’r gwrthdaro buddiannau sydd yn y Cytundeb drafft ar hyn o bryd.”

Mae’r ymgynghoriad ar y berthynas rhwng S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC wedi dod i ben yr wythnos yma.