Aston Martin DB5
Ddiwrnod cyn rhyddhau y ffilm James Bond ddiweddaraf, Skyfall, yn y sinemau, mae’r Aston Martin DB5 wedi ei ddewis gan bobol Prydain fel eu hoff gar o fyd ffilm.
Ym myd y teledu, car Jaguar Inspector Morse sydd ar y brig.
Ymddangosodd yr Aston Martin DB5 am y tro cyntaf yn ffilm Goldfinger ym 1965, ac mae wedi chwarae rhan flaenllaw yn Thunderball, Golden Eye, Tomorrow Never Dies, Casino Royale a Quantum of Solace.
Cafodd y car gwreiddiol ei werthu am £2.6 miliwn mewn ocsiwn.
Pleidleisiodd mwy na chwarter o bobl am yr Aston Martin yn ystod yr arolwg.
Ymddangosodd y DeLorean o Back To The Future a’r Mustang o Bullitt yn uchel ar y rhestr ar gyfer ceir mewn ffilmiau.
Roedd ceir o gyfresi fel Knight Rider, Starsky and Hutch a Dukes of Hazard yn agos at frig y rhestr ar gyfer y byd teledu.
Dywedodd bron i 80% o’r pleidleiswyr fod ymddangos mewn ffilmiau yn ehangu apêl y ceir.
Nododd bron i draean o’r pleidleiswyr eu bod nhw’n dymuno prynu Aston Martin ar ôl gwylio ffilm James Bond.
Dywedodd un allan o bob 50 o ddynion eu bod nhw wedi prynu ceir ar ôl eu gweld nhw mewn ffilmiau.