Mae ceidwad ym mhrif sŵ Sydney wedi ei hanafu’n ddifrifol wedi i eliffant bach ei gwasgu yn erbyn postyn ffens.
Dywedodd prif weithredwr Sŵ Taronga Cameron Kerr bod y ddynes yn ymolchi’r eliffant Asiaidd gwrywaidd dwy oed mewn ysgubor pan bwysodd arni.
Daeth y ceidwaid eraill yno’n syth i’w hachub meddai Mr Kerr, a symud yr eliffant o’r neilltu cyn galw am ambiwlans.
Dywedodd fod meddygon yn nodi bod ei chyflwr yn ddifrifol. Nid yw’r ceidwad wedi ei henwi’n gyhoeddus oherwydd cais i’r perwyl hwnnw gan ei theulu.
Mae ymchwiliad ar y gweill i’r hyn achosodd yr ymosodiad, a ddigwyddodd mewn man cyhoeddus.