Chris Bryant
Fe fydd AS o Gymru’n gorfodi Prif Weinidog Prydain i ateb cwestiynau am negeseuon rhyngddo ag cyn olygydd y News of the World ac un o benaethiaid News International, Rebekah Brooks.
Mae Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, wedi gofyn cwestiynau ysgrifenedig i David Cameron am y negeseuon.
Ddydd Mercher, roedd y Prif Weinidog wedi gwrthod ateb y cwestiynau ar lafar yn Nhŷ’r Cyffredin ond mae Chris Bryant wedi defnyddio dyfais seneddol i fynnu cael atebion.
Mae Downing Street wedi cadarnhau y byddan nhw’n ymateb i’r cwestiynau tros lwyth o negeseuon oedd wedi eu cadw rhag Ymchwiliad Leveson i ymddygiad y wasg, ac yn arbennig newyddiadurwyr News International.
Y gred yw y bydd y negeseuon yn dangos pa mor glos oedd y berthynas rhwng y Prif Weinidog a’r cyn olygydd, sydd wedi ei chyhuddo o gynllwynio i hacio i negeseuon ffonau symudol.