Shakoor - llun teulu
Mae pumed plentyn wedi marw ar ôl tân yn Essex ynghynt yr wythnos yma.

Mae’n golygu fod meddyg lleol bellach wedi colli ei wraig a’i holl blant yn y digwyddiad.

Neithiwr, fe gyhoeddodd doctoriaid fod Maheen Shakoor, 3 oed, o Harlow wedi marw ar ôl brwydro am ei bywyd am bedwar diwrnod.

Fe gafodd y tad, Abdul Shakoor, fân anafiadau ar ôl ceisio ymladd y tân ac mae llyfr cydymdeimlad wedi ei agor yn yr ysbyty lle mae’n gweithio a lle cafodd Maheen ei chymryd i ddechrau ar ôl y tân yn oriau mân bore Llun.

Ar y dechrau, roedd yr heddlu’n amau bod y tân wedi ei gynnau’n fwriadol – bellach, ar ôl methu â dod o hyd i dystiolaeth o hynny, maen nhw’n amau mai damweiniol oedd yr achos.