Protest yn Sbaen yn erbyn toriadau (PA)
Mae cwmni gwybodaeth ariannol Standard and Poor’s wedi gostwng safon credyd Sbaen yn is fyth – bron i’r lefel isa’ bosib.
Fe fydd hynny’n cynyddu’r pwysau ar lywodraeth y wlad ac ar Fanc Canolog Ewrop wrth i’r cwmni broffwydo y bydd economi’r wlad yn crebachu eto yn y ddwy flynedd nesa’.
Yn ôl Standard and Poor’s, mae lefel Sbaen wedi cwympo ddau ricyn o BBB+ i BBB- – yr asesiad yna sy’n awgrymu wrth fanciau a chwmnïau ariannol eraill pa mor saff yw benthyg i’r wlad.
Ar ben hynny, mae’r cwmni’n awgrymu y gallai ostwng ymhellach.
Pam?
Yn ôl dadansoddwyr, un o’r rhesymau yw problemau tros gynllun i achub yr economi a phryder y gallai rhai o fanciau’r wlad chwalu wrth i’r farchnad eiddo ddirywio.
Mae Banc Canolog Ewrop wedi awgrymu y byddai’n prynu bondiau’r wlad er mwyn codi’r pwysau ond, cyn gwneud hynny, rhaid i Lywodraeth Sbaen ofyn am gymorth brys.
Tra oedd pobol yn tybio y byddai cymorth o’r fath yn lleihau dyledion y wlad, yr amheuaeth bellach y yw y byddai’r rheiny’n cynyddu.
Mae yna densiynau hefyd rhwng y llywodraeth ganolog ym Madrid a llywodraethau mewn rhanbarthau fel Catalunya sy’n dweud eu bod nhw’n gorfod cymryd llawer gormod o’r baich.