Lance Armstrong
Mae delwedd y seiclwr Lance Armstrong yn deilchion bore ma ar ôl i Asiantaeth Gwrth Gyffuriau’r UDA (USADA) ei gyhuddo o dwyllo’n “gyson” ac arwain y cynllwyn cyffuriau “fwyaf soffistigedig, proffesiynol a llwyddiannus mae’r gamp erioed wedi ei weld.”
Ddoe, roedd USADA wedi rhoi eu rhesymau y tu ôl i’w penderfyniad i dynnu ei saith teitl Tour de France oddi arno a’i wahardd o’r gamp am weddill ei oes. Mae eu penderfyniad yn seiliedig ar dystiolaeth gan 11 o gyn-aelodau o dîm Armstrong.
Roedd Armstrong wedi penderfynu yn gynharach eleni na fyddai’n herio cyhuddiadau USADA ond mae wedi mynnu nad oedd ganddo unrhyw ran mewn camddefnyddio cyffuriau i wella perfformiad.
Mae Dave Brailsford o Benisarwaun, pennaeth beicio Prydain wedi dweud wrth y BBC fod yr honiadau “yn eich gwneud chi’n geg agored ac yn annifyr iawn. Yn ddychryn o feddwl am faint a natur systematig yr hyn oedd yn digwydd.”