Canolfan hamdden ym Merthyr
Fe allai rhai o ganolfannau hamdden Cymru orfod cau, yn ôl Prif Weithredwr y corff sy’n cynrychioli cynghorau sir.

Mae awdurdodau lleol yn diodde’n ariannol, meddai Steve Thomas o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac fe fydd rhaid iddyn nhw edrych eto ar eu gwario ar hamdden.

“Fe fydd gwario ar hamdden yn dod dan bwysau anferth ac efallai y bydd rhaid i rai canolfannau gau,” meddai wrth Radio Wales.

Mae’r rhaglen Good Morning Wales wedi datgelu bod bron pob un o gynghorau Cymru’n gwario llai ar hamdden eleni.

‘Toriadau’n drech nag iwfforia Olympaidd’

“Er fy mod i’n deall bod y cyhoedd eisiau cadw’r holl gyfleusterau sydd ganddyn nhw, mae’r ffigurau’n awgrymu na allwn ni wneud hynny,” meddai Steve Thomas.

“Mae’n wych bod yn rhan o iwfforia’r Gêmau Olympaidd, ond fe fydd y toriadau yma’n parhau’n hwy na threftadaeth yr Olympics.”