Michael Laudrup - dan bwysau?
Dyw clwb Abertawe ddim wedi ymateb yn swyddogol eto i stori bapur newydd sy’n awgrymu bod chwaraewyr yn gwrthryfela yn erbyn eu rheolwyr.
Yn ôl y Daily Mail, mae rhai o’r prif chwaraewyr wedi mynnu cael cyfarfodydd gyda Chadeirydd y clwb, Huw Jenkins, i drafod cwynion am Michael Laudrup.
Yr honiad yw eu bod yn anhapus gyda newid mewn tactegau a diffygion o ran ffitrwydd a dulliau hyfforddi.
Mae’r Daily Mail yn dweud bod Huw Jenkins wedi cadarnhau’r stori am y cyfarfodydd ond nad oes ganddo unrhyw fwriad i sacio Laudrup.
Mae’n debyg fod y chwaraewyr yn anhapus wrth gymharu Laudrup gyda’r cyn reolwr Brendan Rodgers, er fod Abertawe’n 11eg yn yr Uwch Gynghrair.