Ched Evans - euog o dreisio
Mae dwy ddynes o’r Gogledd a thri dyn o Sheffield wedi cael eu cyhuddo am gyhoeddi enw gwraig ifanc a gafodd ei threisio gan y chwaraewr pêl-droed, Ched Evans.

Mae’r cyhuddiadau diweddara’n golygu bod naw o bobol wedi eu cyhuddo o droseddau o’r fath ac, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, maen nhw’n ystyried dwyn cyhuddiadau’n erbyn rhagor.

Fe gadarnhaodd Gwasanaeth Erlyn y Goron eu bod yn ystyried fod digon o dystiolaeth i ddwyn achos yn erbyn y pump: Hollie Price, 25, o Brestatyn, Gemma Thomas, 18, o’r Rhyl, a Paul Devine, 26, Daniel Cardwell, 25, a Shaun Littler, 22, o Sheffield.

Maen nhw’n ychwanegol at ddau ddyn o Landdulas, un dyn o’r Rhyl a dynes o Frychtyn sydd eisoes wedi’u cyhuddo o ddatgelu enw’r wraig 19 oed.

Y cefndir

Fe gafwyd blaenwr rhyngwladol Cymru, Ched Evans, yn euog ym mis Ebrill o dreisio’r wraig ifanc.

Yn ôl ei thystiolaeth, roedd y chwaraewr wedi cymryd mantais ohoni pan oedd hi’n rhy feddw i gydsynio.

Mae’n groes i’r gyfraith i ddatgelu enw merch sydd wedi’i threisio ond, yn yr achos yma, fe gafodd yr enw’i gyhoeddi ar y We gyda rhai negeseuon maleisus yn ei herbyn hefyd.