Stockport 2–3 Wrecsam

Mae Wrecsam yn dynn ar sodlau Casnewydd ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square ar ôl codi i’r ail safle gyda buddugoliaeth dros Stockport ar Barc Edgeley nos Fercher.

Sgoriodd Neil Ashton o’r smotyn ddwywaith i sicrhau’r fuddugoliaeth wedi i flaenwr Stockport, Craig Hobson, sgorio i’w rwyd ei hun. Danny Hattersley sgoriodd ddwy y tîm cartref.

Dechreuodd y sgorio hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf pan fanteisodd Hattersley ar bas Sean Newton i roi Stockport ar y blaen.

Ond roedd ei gyd ymosodwr, Hobson, wedi unioni’r sgôr i Wrecsam o fewn dau funud pan beniodd gic gornel Dean Keates i’w rwyd ei hun.

Ac roedd y Dreigiau ar y blaen erbyn hanner amser diolch i’r gyntaf o ddwy gic o’r smotyn gan Ashton. Troseddodd Paul Turnbull, Chris Westwood yn y cwrt cosbi a rhoddodd Ashton Wrecsam ar y blaen o ddeuddeg llath.

Roedd hi’n ymddangos fod y fuddugoliaeth yn ddiogel wyth munud o’r diwedd wedi i Keates sgorio o’r smotyn eto yn dilyn trosedd Lewis King ar Danny Wright y tro hwn.

Ond derbyniodd Keates ail gerdyn melyn a cherdyn coch am ei ddathliadau gan olygu ychydig o funudau nerfus i Wrecsam ar ddiwedd y gêm.

Ond er i Hattersley dynnu un yn ôl gyda pheniad hwyr fe ddaliodd y Dreigiau eu gafael ar y fuddugoliaeth.

Ac mae’r fuddugoloiaeth honno yn eu codi i’r ail safle yn nhabl y Blue Square, driphwynt yn unig y tu ôl i Gasnewydd ar y brig.

.

Stockport

Tîm: King, Halls, Newton, Tunnicliffe, Fagbola, Mainwaring, Turnbull, Whitehead (Rowe 86’), Hattersley, Collins (Meaney 72’), Hobson

Goliau: Hattersley 23’, 84’

Cerdyn Melyn: Halls 90’

Wrecsam

Tîm: Coughlin, S. Wright, Ashton, Riley, Westwood, Cieslewicz (Clarke 83’), Harris, Keates, Hunt, D. Wright, Morrell (Ormerod 86’),

Goliau: Hobson [g.e.h.] 25’, Ashton [c.o.s.] 37’, [c.o.s.] 82’

Cardiau Melyn: Ashton 63’, Harris 9’, Keates 33’

Cerdyn Coch: Ashton 82’

Torf: 3,789