Yr Arlywydd Barack Obama
Mae’r Arlywydd Barack Obama ac ymgeisydd y Gweriniaethwyr am yr arlywyddiaeth Mitt Romney wedi gwrthdaro ynglŷn â materion cartref wrth i’r ddau rannu llwyfan am y tro cyntaf yn y ras am y Tŷ Gwyn.

Neithiwr fe fu’r ddau yn amlinellu eu polisïau ar gyfer y dyfodol gan drafod trethi, yr argyfwng economaidd a sut i hybu economi’r UDA.

Dywedodd Barack Obama bod Mitt Romney am ddychwelyd i’r polisïau oedd wedi achosi’r argyfwng economaidd yn yr UDA.


Mitt Romney
Ond mynnodd Mitt Romney bod polisïau Barack Obama wedi methu a bod America angen newid.