Mae o l
Map yn dangos Mali (Varidon CCA 3.0)
eia’ 36 o bobol wedi cael eu lladd mewn stadiwm ym Mali yng ngogledd-orllewin Affrica ar ôl i dorf wasgu yn erbyn rhwystr metel yn dilyn seremoni Foslemaidd.

Yn ôl Llywodraeth Mali, roedd y rhuthr wedi digwydd ar ôl y seremoni i nodi cyfnod sanctaidd o’r enw Maouloud.

Roedd degau ar filoedd o bobol yn ceisio gadael y stadiwm trwy’r rhwystrau ac mae o leia’ 64 person arall wedi cael eu hanafu.

Ynghynt heddiw, roedd teuluoedd wedi casglu y tu allan i ysbyty lle’r oedd staff yn paratoi i gyhoeddi rhestr o’r meirw.

Y tu allan i’r stadiwm ei hun, roedd gweithwyr yn casglu pentwr mawr o esgidiau a oedd wedi eu gadael ar ôl yn y panig.