David Cameron - gobeithiol
Fe fydd David Cameron yn dweud bod gobaith y bydd protestiadau’r gwledydd Arabaidd yn arwain at lywodraethau newydd cymedrol.

Ond mae wedi condemnio Llywodraeth y Cyrnol Gaddafi yn Libya am ladd cannoedd o wrthdystwyr yno.

Mae Prif Weinidog Prydain ar daith i ogledd Affrica a’r Dwyrain Canol ac fe fydd yn Kuwait heddiw yn dweud y gallai’r diwygiadau helpu masnach a diogelwch y Deyrnas Unedig.

Condemnio Libya

Roedd David Cameron yn Cairo ddoe – yr arweinydd cyntaf i ymweld â’r Aifft ers i’r Arlywydd Hosni Mubarak gael ei ddisodli ar ôl protestiadau ffyrnig.

Wrth ymweld â’r Aifft, fe gondemniodd David Cameron ormes lluoedd Libya; heddiw, yn Kuwait, fe fydd yn galw ar wladwriaethau’r rhanbarth i gydnabod galwadau eu pobol am ddemocratiaeth.

“Mae’n dal i fod yn rhy gynnar i wybod beth fydd y canlyniad. Siom sydd wedi bod yn gyson yn y gorffennol,” meddai David Cameron.

“Ond mae yna sail i fod yn optimistaidd oherwydd mae’r bobol – yn enwedig yr ifanc- yn codi eu lleisiau.

“Maen nhw’n dangos bod mwy i wleidyddiaeth y rhanbarth na’r dewis ffug rhwng gormes ac eithafiaeth.”

Y cefndir

Un o ofnau gwledydd y gorllewin yw y bydd Moslemiaid mwy eithafol yn cipio grym yn y gwledydd lle mae protestiadau.

Yn ôl sylwebwyr rhyngwladol, mae llywodraethau fel un y Deyrnas Unedig wedi bod yn cynnal breichiau llywodraethau’r rhanbarth, er mwyn sefydlogrwydd a masnach.

Erbyn hyn, mae protestiadau sylweddol  wedi bod mewn hanner dwsin o wledydd y rhanbarth ond mae’r ymateb wedi amrywio – o drafodaethau yn yr Iorddonen, i drais ffyrnig yn Libya.