Un o longau rhyfel y Llynges (MoD)
Fe fydd rhaid i’r Weinyddiaeth Amddiffyn ddangos yr un ddisgyblaeth wrth wario arian ag y mae milwyr yn ei ddangos ym maes y gad, meddai pwyllgor seneddol.
Roedd cam reoli gyda dim ond pedwar cynllun wedi arwain at gostau ychwanegol o £8 biliwn yn ôl Pwyllgor Cyfrifon Tŷ’r Cyffredin. Erbyn hyn, mae’r bwlch ariannol yng nghyllideb yr adran wedi codi i £36 biliwn.
Maen nhw wedi cyhuddo’r Weinyddiaeth o ohirio penderfyniadau gwario er mwyn ceisio cadw o fewn cyllidebau un flwyddyn, heb ragweld y byddai hynny’n achosi costau anferth ychwanegol yn nes ymlaen.
Doedd dim trefn o gwbl ar y broses o archebu offer ac roedd y fyddin, y llynges a’r awyrlu yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i gael yr offer gorau, meddai Cadeirydd y Pwyllgor, y cyn-weinidog Llafur, Margaret Hodge.
Roedd Llywodraeth Lafur Gordon Brown yn gyfrifol am yr enghraifft waetha’ erioed o reolaeth wael, meddai adroddiad y Pwyllgor. Roedden nhw wedi archebu dwy long gario awyrennau a fydd yn gorfod cael eu cadw heb eu defnyddio am ddeng mlynedd.
Fox yn addo rhoi trefn
Yn ddiweddarach heddiw, fe fydd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Liam Fox, yn addo rhoi trefn ar bethau, gan ddweud nad yw arferion y gorffennol yn dderbyniol.
Fe fydd yn dweud wrth y corff syniadau Civitas mai’r Llywodraeth Lafur oedd ar fai am fod yn “rhy optimistaidd”, am fethiannau wrth amcangyfri’ prisiau ac wrth osod amserlenni.