Y Cae Ras yn Wrecsam
Mae Aelod Seneddol Wrecsam wedi galw ar i gyrff cyhoeddus ddod at ei gilydd i brynu stadiwm y Cae Ras a rhoi sylfaen sefydlog i glwb pêl-droed y dref.

“Mae clwb pêl-droed Wrecsam yn rhy bwysig i’r dref ac i Gymru i gael ei adael i fethu,” meddai Ian Lucas ar Radio Wales.

Roedd yn galw ar i gyngor y dref a Phrifysgol Glyndŵr ac eraill ddod at ei gilydd i gydweithio gan alw’r sefyllfa bresennol yn “anhrefn”.

Ddoe, roedd yna ddau gyhoeddiad ar wefan y clwb – un gan grŵp o brynwyr posib yn dweud eu bod yn tynnu’n ôl; yr ail gan y perchnogion ar hyn o bryd yn dweud bod y clwb ar werth o hyd a’u bod nhw’n ffafrio gwerthu i gonsortiwm o gefnogwyr.

Protestiadau

Roedd yna brotestiadau cyn y gêm ddydd Sadwrn pan gafodd Wrecsam eu curfa gartre’ waetha’ erioed o 7-2 yn erbyn Gateshead.

Yn ôl Ian Lucas, roedd yr anghydfod yn y cefndir wedi treiddio trwodd i’r awyrgylch “blin” yn y Cae Ras dros y Sul.

“Dyw’r sefyllfa ar hyn o bryd yn helpu neb,” meddai.