Martin Johnson, hyfforddwr Lloegr
Mae hyfforddwr Ffrainc, Marc Lievremont, wedi cynhyrfu’r dyfroedd cyn y gêm yn erbyn Lloegr trwy ddweud nad yw ei dîm yn hoffi’r Saeson.

Mae’r gêm rhwng Lloegr a Ffrainc yn Twickenham yn un allweddol ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni gyda’r ddau dîm yn ddiguro hyd yn hyn.

Fe ddywedodd Marc Lievremont fod gwledydd eraill y Chwe Gwlad am weld y Ffrancod yn curo Lloegr a rhwystro tîm Martin Johnson rhag ennill y Gamp Lawn.

“D’yn ni ddim yn hoffi’r Saeson. R’yn ni’n eu parchu nhw ond does gyda ni ddim byd yn

gyffredin gyda nhw,” meddai Marc Lievremont.

“R’yn ni’n gwerthfawrogi’r Eidalwyr gan ein bod ni’n rhannu’r un ffordd o fyw. R’yn ni’n gwerthfawrogi’r Celtiaid am eu rhialtwch ac ymysg y gwledydd yma mae gyda ni un peth mawr yn gyffredin – d’yn ni ddim yn hoffi’r Saeson.

“Er ein bod ni wedi curo Iwerddon yn Nulyn, roedden ni’n gadael gyda’u bendith nhw gyda’r Gwyddelod i gyd yn galw arnon ni i guro’r Saeson.”

Er hynny i gyd, mae hyfforddwr Ffrainc yn cydnabod bod Lloegr yn dîm bygythiol sy’n “chwarae ar lefel arall”.