Warren Gatland
Mae’r Waikato Chiefs wedi cadarnhau bod Warren Gatland wedi gwrthod eu cynnig i fod yn hyfforddwr newydd ar y clwb.
Maen nhw’n dweud bod Gatland wedi penderfynu aros gyda Chymru tan Gwpan y Byd 2015.
Dyma’r ail dro o fewn wythnos i enw’r hyfforddwr gael ei gysylltu gyda chlybiau – roedd Undeb Rygbi Cymru wedi gwadu sïon eraill ei fod am ymuno gyda Wasps yn Lloegr.
Mae hyfforddwr presennol y Waikato Chiefs, Ian Foster, yn gadael y swydd ym mis Gorffennaf ac roedd y clwb yn awyddus i hyfforddwr Cymru gymryd yr awenau.
Mae’r clwb o Seland Newydd wedi galw am geisiadau swydd gan hyfforddwyr gyda diddordeb ar ôl colli allan ar eu targed cyntaf.
Wedi siarad
“Dw i ddim yn credu ei bod yn gyfrinach ein bod ni wedi siarad gyda Warren Gatland, ond fe benderfynodd arwyddo cytundeb newydd gyda Chymru,” meddai Prif Weithredwr Waikato Chiefs, Gary Dawson.
Roedd Gatland wedi ystyried dychwelyd i Seland Newydd ar ôl Cwpan y Byd eleni er mwyn fod yn nes at ei deulu.
Ond yn dilyn trafodaethau gydag Undeb Rygbi Cymru fe arwyddodd gytundeb newydd ym mis hydref llynedd.