Mae diogelwch yn llysgenadaethau Ffrainc ar draws y byd wedi cael ei atgyfnerthu yn dilyn cyhoeddi cylchgrawn Ffrengig sy’n dychanu’r proffwyd Mohamed.

Nid dyma’r tro cyntaf i’r cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo godi gwrychyn Moslemiaid gan iddyn nhw gyhoeddi rhifyn dan yr enw Charia Hebdo ym mis Tachwedd a arweiniodd at ymosodiad ar swyddfeydd y cylchgrawn.

Bydd rhai o lysgenadaethau Ffrainc ac ysgolion Ffrengig dramor yn cau yn gynnar brynhawn Gwener rhag ofn i Foslemiaid brotestio ar ôl gweddi’r prynhawn.

Mae’r cylchgrawn Ffrangeg yn cyfeirio at ffilm wrth-Islamaidd o America a gafodd ei rhyddhau’r wythnos ddiwethaf ac a gythruddodd Moslemiaid ar draws y byd. Cafodd llysgennad yr Unol Daleithiau yn Libya ei ladd a bu ymosodiadau eraill ar lysgenadaethau’r wlad yn y Dwyrain Canol, Indonesia a Phacistan.

Mae Gweinidog Tramor Ffrainc, Laurent Fabius, wedi amddiffyn yr hawl i fynegi barn, ond dywedodd y gallai cylchgrawn Charlie Hebdo fod yn “taflu olew ar y tân.”