Kayleigh Buckley a'i merch Kimberley
Mae’r heddlu’n dal i holi dyn sydd wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio tair cenhedlaeth o’r un teulu yng Nghwmbrân, ar ol cael 24 awr ychwanegol i’w holi ddoe.
Bu farw Kim Buckley, 46, ei merch Kayleigh, 17, a’i wyres chwe mis oed Kimberley mewn tân yn eu tŷ yn Tillsland, Coed Efa yn ystod oriau mân bore dydd Mawrth.
Roedd Kayleigh newydd roi genedigaeth i efeilliaid ac yn dal i ddod dros marwolaeth un o’r merched yn fuan ar ôl iddi gael ei geni.
Mae dyn 27 oed o ardal Manceinion, y credir oedd yn dad i’r efeilliaid, yn cael ei holi gan yr heddlu.
Cafodd Heddlu Gwent ganiatâd gan Lys Ynadon Caerffili am amser ychwanegol i’w holi.
Parhau mae’r ymchwiliad i farwolaeth y tair ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.