Llys y Goron Caernarfon
Mae dyn a fu’n rhedeg tafarn yng Ngwynedd wedi cael dedfryd o garchar wedi ei ohirio ar ôl bygwth pobol leol gyda dryll awyr.
Roedd ffrae wedi datblygu rhwng Gareth Sale, 26, a chwsmeriaid y Royal Oak, Penrhyndeudraeth, am iddyn nhw archebu diodydd yn Gymraeg.
Yn Llys y Goron Caernarfon cafodd Gareth Sale 32 wythnos o garchar, wedi ei ohirio, a bydd rhaid iddo gyflawni 200 awr o waith di-dâl a thalu costau o £250.
Dywedodd y barnwr fod Gareth Sale wedi bod “braidd yn ffôl” yn ôl y dryll tra bod “haid swnllyd yn cicio ac yn taro’r drws tu allan.”
Roedd Gareth Sale yn wreiddiol wedi gwadu bod â dryll yn ei feddiant gyda’r bwriad o ddychryn, ond yn ystod yr achos newidiodd ei ble a chyfaddefodd ei fod wedi cyflawni’r drosedd lai difrifol o fod â dryll yn ei feddiant mewn lle cyhoeddus.
Dywedodd ei fod yn newydd i’r ardal a’i fod wedi gofyn i bobol archebu diodydd yn Saesneg, a bod rhai ohonyn nhw wedi ymateb yn ymosodol.
Yn ystod yr achos dywedodd yr erlynydd, Siôn ap Mihangel, nad oedd amheuaeth mai’r Gymraeg oedd asgwrn y gynnen.
Mae gan y dafarn bellach reolwyr newydd.