Fiona Bone a Nicola Hughes, dde
Fe fydd chwaraewyr Manchester United yn gwisgo bandiau du ar eu breichiau heno, yn ystod y gêm yn erbyn Galatasaray  yng nghynghrair y Pencampwyr,  er cof am y ddwy blismones  gafodd eu llofruddio ym Manceinion ddoe.

Bu farw Nicola Hughes, 23, a Fiona Bone, 32, ar ôl iddyn nhw fynd i dŷ yn dilyn adroddiad am fyrgleriaeth. Ond dywed Heddlu Manceinion bod Dale Cregan, 29, wedi eu denu yno’n fwriadol cyn ymosod arnyn nhw gyda gwn a grenâd.

Mae Cregan yn parhau i gael ei holi gan yr heddlu.

‘‘Rydym ni  i gyd yn drist iawn i glywed am y newyddion trasig yma, o’r ddwy blismones yn ceisio diogelu ein cymuned,’’ meddai Alex Ferguson, rheolwr Manchester United.

Bu  Heddlu Manceinion yn cynnal munud o dawelwch y bore yma i gofio am y ddwy blismones.