Jamie Roberts
Fe gadarnhaodd Prif Weithredwr clwb rygbi Pontypridd heddiw bod ei glwb wedi gwrthod y cyfle i gynnal gemau Cwpan LV y Gleision.
Ond dywedodd Steve Reardon nad ydyn nhw wedi diystyrru cynnal gemau’r Gleision yn y dyfodol.
Ddoe, fe wnaeth y Gleision gynnal sesiwn hyfforddi llwyddiannus ym Mhenygraig, gan obeithio cynnal dwy gêm o’r Cwpan LV yn Heol Sardis.
Daeth 1,000 o blant ysgol ac oedolion i weld sêr rhyngwladol fel Alex Cuthbert, Jamie Roberts a Sam Warburton yn ymarfer.
Roedd Richard Holland, Prif Weithredwr y Gleision a Phil Davies, rheolwr y Gleision yn awyddus i ddatblygu rygbi yn y cymunedau ac yn yr ysgolion tu hwnt i Gaerdydd.
‘Siom’
Cafwyd bach o siom wrth i’r cynnig gael ei wrthod.
‘‘Gobeithio y gallwn ailennyn y cynnig yn y dyfodol. Byddai unrhyw un yn bresennol ddoe wedi cadarnhau ei bod yn ddydd llwyddiannus dros ben. Daeth plant o tua 33 o ysgolion dros y rhanbarth, cawsom groeso ac ymateb anhygoel,’’ meddai Richard Holland wrth Wales Online.
‘‘Rydym yn gwneud ein rhan i geisio cysylltu’r Gleision a phawb yn y rhanbarth. Am ei bod yn ddydd hynod o lwyddiannus, hoffwn wneud yr un peth mewn mannau eraill yn y rhanbarth,’’ ychwanegodd.
Dywedodd Steve Reardon: ‘‘Fe wrthodon ni’r cynnig oherwydd ni chawsom y cyfle o’r blaen, mae angen i ni edrych ar y camau cyntaf. Er nad ydym wedi derbyn y cynnig, nid ydym am anghofio’r cynnig ar gyfer cynnal gemau’r Gleision.”