Mae cwmni electroneg Samsung wedi cael ei gyhuddo o gyflogi plant a cham-drin gweithwyr yn Tsieina.
Mae’r grŵp o’r Unol Daleithiau, China Labour Watch, yn dweud eu bod wedi cynnal ymchwiliad i amodau gwaith mewn wyth ffatri yn Tsieina a bod rhai o’r staff yn gweithio 100 awr yn ychwanegol bob mis a bod plant yn cael eu cyflogi yno.
Dywed y grŵp nad oedd mesurau diogelwch, fel darparu dillad amddiffynnol, yn cael eu dilyn.
Mae China Labour Watch hefyd wedi cyhuddo Samsung o wahardd gweithwyr rhag eistedd i lawr yn ystod eu shifftiau a bod ’na enghreifftiau bod gweithwyr yn cael eu cam-drin.
Mae’r cwmni o dde Corea wedi ymateb i’r honiadau gan ddweud bod adolygiad yn cael ei gynnal ar unwaith. Mae Samsung yn cynhyrchu offer technolegol fel ffonau a setiau teledu ac yn cyflogi mwy na 24,000 o weithwyr
Dywedodd llefarydd: “Pan mae cynnyrch newydd yn cael ei lansio mae’r cynnydd mewn galw yn golygu bod yn rhaid i weithwyr weithio oriau ychwanegol. Fe fyddwn yn adolygu’r sefyllfa.”
Ond mae Samsung wedi gwadu’r honiadau eu bod wedi cyflogi plant ifanc. Mae’n drosedd i gyflogi plant dan 16 oed yn Tsieina.