Mae adran yswiriant banc RBS, Direct Line Group, yn ystyried cael gwared â 900 o swyddi.

Fe fydd yn cynnwys cau’r safle yn Stockton-on-Tees, yn ôl ffynonellau.

Mae’r grŵp, sy’n berchen brandiau Churchill a Green Flag, yn cyflogi tua 15,000 o staff i gyd.

Mae’n debyg bod y diswyddiadau yn rhan o gynllun i arbed £100 miliwn.

Fe allai 500 o swyddi fynd yn eu safle yn Stockton-on-Tees tra bod disgwyl i weddill y swyddi fynd yn eu safleoedd ar draws y DU.