Mae cwmni technoleg Apple wedi awgrymu eu bod ar fin lansio fersiwn newydd o’r iPhone.

Mae gwahoddiadau dirgel wedi cael eu hanfon gan y cwmni at westeion ar y diwrnod y mae dau gwmni arall, Nokia a Microsoft yn bwriadu cyhoeddi cynlluniau ar gyfer ffonau sy’n cael eu rheoli drwy system Windows.

Cafodd neges e-bost ei hanfon allan gan Apple yn dwyn y teitl ‘Mae bron yma’, ar gyfer digwyddiad ddydd Mercher, 12 Medi.

Mae’r rhif ‘5’ i’w weld fel rhan o logo yn y neges, sydd o bosib yn cyfeirio at iPhone 5, sef y fersiwn nesaf o’r ffôn.

Mae Nokia bellach yn wneuthurwr ffôn ail orau’r byd y tu ôl i Samsung, wedi iddo fod ar y brig am gyfnod hir.

Gallai swyddogion cwmni Apple gyhoeddi’r cynnyrch diweddaraf o’u safle yng Nghaliffornia ar 12 Medi.