Pussy Riot
Mae dau aelod o Pussy Riot wedi ffoi o Rwsia, cyhoeddodd y band heddiw.

Roedd pum aelod o’r grŵp ffeministaidd wedi cymryd rhan mewn perfformiad dadleuol y  tu mewn i brif eglwys gadeiriol Moscow ym mis Chwefror.

Roedden nhw’n protestio yn erbyn yr Arlywydd Vladmir Putin a’i berthynas ag Eglwys Uniongred Rwsia.

Dim ond tair o’r merched gafodd eu hadnabod a’u harestio ar y pryd.

Cafodd y tair eu dedfrydu i ddwy flynedd yn y carchar ar 17 Awst.

Dywedodd heddlu Moscow eu bod nhw’n chwilio am yr aelodau eraill.

Trydarodd Pussy Riot bod dau aelod wedi ffoi o Rwsia “a bellach yn recriwtio ffeministiaid o dramor er mwyn cynnal ymgyrchoedd pellach”.