Mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi dweud y bydd yn chwalu’r BBC os yw’r wlad yn pleidleisio o blaid annibyniaeth.

Ychwanegodd y bydd y wlad yn cael ei darlledydd cyhoeddus ei hun er mwyn llenwi’r gwagle.

Dywedodd Alex Salmond nad oedd gwylwyr o’r Alban yn cael chwarae teg gan y BBC.

Wrth siarad yng Ngŵyl Teledu Ryngwladol Caeredin, dywedodd arweinydd yr SNP nad oedd “darlledu wedi addasu i ofynion datganoli”.

“Rydyn ni eisiau sefydlu darlledydd cenedlaethol sy’n seiliedig ar weithwyr a deunydd BBC yr Alban,” meddai.

“Bydd rhagor o fanylion ynglŷn â sut y byddai’r darlledydd yn gweithredu ac yn parhau ei berthynas â BBC gweddill Prydain yn cael ei gyhoeddi’r flwyddyn nesaf.”

Dywedodd Alex Salmond y bydd cynhyrchwyr o’r tu allan i’r Alban yn parhau i gael creu deunydd ar gyfer y darlledydd.

Ychwanegodd y byddai rhaglenni poblogaidd o weddill y Deyrnas Unedig, er enghraifft EastEnders, yn saff ar ôl i’r Alban ddewis annibyniaeth.

Byddai pobol yn parhau i dalu trwydded teledu er mwyn ariannu’r darlledwr, fel yr oedden nhw yn awr, meddai.

Cyfeiriodd hefyd at lwyddiant darlledwr BBC Alba, sy’n denu cynulleidfa llawer mwy na nifer siaradwyr Gaeleg y wlad.

Ansefydlogi

Cyhuddodd Ysgrifennydd yr Alban, Margaret Curran, y Prif Weinidog o geisio ansefydlogi diwydiannau creadigol yr Alban.

“Mae diwydiannau creadigol yr Alban wedi bod yn hynod o lwyddiannus er gwaethaf y dirwasgiad,” meddai.

“Er gwaethaf yr holl dystiolaeth y bydden ni’n well yn cydweithio efo’r BBC, mae Alex Salmond yn parhau o blaid ei chwalu.

“Mae’n bryd iddo ganolbwyntio ar gryfhau ein diwydiannau creadigol yn hytrach na cheisio eu hansefydlogi nhw.”

‘Lol’

Dywedodd dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, Jackson Carlaw, ei fod yn “ebychiad arall o lol am sut y bydd popeth yn well mewn gwlad annibynnol”.

“Y cyfan sydd ar goll, fel arfer, yw rhagor o dystiolaeth a manylion,” meddai.