Mae cawodydd monsŵn trwm wedi achosi llifogydd yng ngogledd Pacistan, gan ladd hyd at 22 o bobol, medd swyddogion yno heddiw.
Bu farw o leiaf 13 o bobol yn Kashmir ddoe, meddai Sardar Nawaz Khan, swyddog rheoli trychineb.
Roedd naw o’r meirw yn perthyn i dri theulu a gafodd eu lladd pan ddisgynnodd toeau eu tai ar eu pennau.
Dywedodd swyddog arall, Adnan Khan, fod naw person wedi marw yn nhalaith gogledd-orllewinol, Khyber Pakhtunkhwa.
Fe ddigwyddodd chwech o’r marwolaethau yn ardal Mansehra, a tri yn Nowshera.
Cafodd Pacistan y llifogydd gwaethaf yn eu hanes yn 2010. Bu farw mwy na 1,700 o bobol pan orchuddiwyd ardal maint Lloegr gan lifogydd trwm. Cafodd 20 miliwn o bobol eu heffeithio gan y trychineb hwnnw.