Arlywydd Bashar Assad
Mae’r Prif Weinidog David Cameron ac Arlywydd yr UDA Barack Obama wedi cytuno y byddai defnyddio arfau cemegol yn Syria, neu hyd yn oed fygythiad o’u defnyddio, yn “hollol annerbyniol”.
Mewn galwad ffôn neithiwr fe ddywedodd y ddau arweinydd petai’r Arlywydd Bashar Assad yn cymryd cam o’r fath yna byddai’n rhaid ail-ystyried eu safiad hyd yn hyn.
Dywedodd Cameron ac Obama bod “llawer mwy i’w wneud” i atal trigolion y wlad rhag cael eu lladd.