Fe fydd miloedd o ddisgyblion yn derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw.
Y llynedd roedd y canlyniadau yng Nghymru wedi gwella ond roedd y bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU o ran ennill gradd A* i C yn fwy nag erioed o’r blaen sef 3.3%.
Daw’r canlyniadau wrth i Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru (FSB) ddatgan pryder am sgiliau sylfaenol plant sy’n gadael yr ysgol yn 16 oed. Roedd arolwg ymhlith 140 o fusnesau yng Nghymru yn dangos bod 82% yn poeni am sgiliau llythrennedd a rhifedd plant sy’n gadael yr ysgol.
Mae’r FSB yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod plant sy’n gadael yr ysgol yn 16 oed â sgiliau sylfaenol, ynghyd â sgiliau pwysig eraill fel ysgrifennu CV a chadw at amser.
Dywed yr FSB yng Nghymru bod busnesau yn fodlon buddsoddi amser ac arian yn hyfforddi staff yn y sgiliau sy’n berthnasol i’r swydd ond maen nhw hefyd yn disgwyl iddyn nhw wybod sgiliau sylfaenol cyn cychwyn. Roedd busnesau wedi dweud bod rhifedd, llythrennedd a sgiliau fel cyfathrebu yn broblem fawr.
Adolygiad o’r system gymwysterau
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o’r system gymwysterau yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae’r FSB wedi galw am drafodaeth gyda chyflogwyr cyn cyflwyno unrhyw newidiadau, er mwyn cwrdd â gofynion cyflogwyr yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio tuag at wella sgiliau plant sy’n gadael yr ysgol drwy gyflwyno’r cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac mae Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews eisoes wedi dweud bod gwella safon llythrennedd a rhifedd disgyblion Cymru’n flaenoriaeth.