Jane Hutt
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £1.7m i Gyngor Powys er mwyn lletya teulu o sipsiwn a fu’n byw ar ochor yr heol ger Libanus.
Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i adeiladu gwersyll i’r teulu ger tref Aberhonddu. Mae Cyngor Powys yn derbyn £1m ar gyfer 2012-13 ac mae addewid o £750,000 ar gyfer 2013-14.
Daw’r arian o gynllun grant Sipsiwn a Theithwyr a dywedodd y Gweinidog Cydraddoldebau Jane Hutt fod y Llywodraeth wedi ymrwymo yn ei strategaeth Teithio at Ddyfodol Gwell i ddarparu safleoedd newydd i deithwyr a sipsiwn yn ôl yr anghenion lleol.
‘Arwain at well cyfleoedd’
“Gall darparu cyfleusterau modern ac amodau byw teg i Sipsiwn a Theithwyr arwain yn y pen draw at well cyfleoedd o safbwynt cael mynediad i wasanaethau hanfodol eraill megis iechyd ac addysg,” meddai Jane Hutt.
Dyma fydd yr ail safle o’i fath ym Mhowys gan fod un eisoes yng ngogledd y sir yn Nhre’r Llai, a dyma fydd y safle newydd cyntaf yng Nghymru ers 1997.
Dywedodd y Cynghorydd Garry Banks, Aelod Cabinet ar gyfer Eiddo ac Asedau yng Nghyngor Powys, fod y Cyngor wedi bod yn gweithio at y nod o gael safle newydd “ers tro.”
“Oherwydd y grant hwn, bydd y cyngor bellach yn gallu darparu cyfleuster sy’n diwallu anghenion y teulu o dan sylw a bydd yn cydymffurfio â safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer arferion da,” meddai Garry Banks.