Pont Hafren
Mae streic gan swyddogion tollbyrth pontydd yr Hafren dros benwythnos Gŵyl y Banc wedi cael ei gohirio.
Mae undeb Unite wedi cyhoeddi eu bod nhw a Severn River Crossing wedi dod i gytundeb ac na fydd gweithwyr y tollbyrth yn streicio.
Roedd disgwyl i oddeutu 70 o aelodau’r undeb weithredu yn erbyn shifftiau newydd oedd yn “dinistrio cydbwysedd gwaith a hamdden” y gweithwyr.
“Mae Unite a’r cwmni wedi dod i gytundeb ar amryw o faterion, gan gynnwys y rheiny wnaeth arwain at bleidlais o blaid gweithredu,” meddai Jeff Woods, swyddog rhanbarthol gydag Unite.
“Bydd mwy o gyfarfodydd er mwyn datblygu’r cytundeb,” ychwanegodd.
Fe allai’r streic fod wedi creu oedi mawr ar yr M4 ar un o benwythnosau prysuraf y flwyddyn.