Mae’r gwrthbleidiau wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o fethu ymdopi gydag amserau aros cleifion canser ar ôl i ffigurau ddatgelu mai dim ond un Bwrdd Iechyd lwyddodd i gyrraedd targed y Llywodraeth.
Nod Llywodraeth Cymru yw bod 95% o gleifion sy’n cael eu hamau o fod â chanser yn cael gweld arbenigwr o fewn 92 diwrnod.
Ar gyfartaledd gwelodd 88% o gleifion arbenigwr o fewn yr amser penodedig, a dim ond Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan lwyddodd i gyrraedd y targed o blith y saith Bwrdd Iechyd.
“Mae’r Llywodraeth Lafur yn ei chael hi’n anodd ymdopi gydag amserau aros canser,” meddai Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams.
“Mae blynyddoedd ers i’r Llywodraeth gwrdd â’i tharged o 95% ac mae’r ystadegau’n awgrymu nad yw’r gwasanaeth yn gwella.
“Mae’n hanfodol fod pobol sy’n cael eu hamau o fod â chanser yn cael triniaeth yn brydlon, neu fel arall mae peryg bydd eu hiechyd yn dirywio yn y cyfamser.”
‘Angen cynllun gweithredu yn fuan’
Mae’r Ceidwadwyr wedi beirniadu’r ystadegau hefyd.
“Nid yw targedau amseroedd aros canser wedi eu cwrdd ers i Carwyn Jones fod yn Brif Weinidog,” meddai Darren Millar, llefarydd y blaid ar iechyd.
“Mae angen i Weinidogion Llafur Cymru gyflwyno Cynllun Gweithredu ar Ganser yn fuan a gweithio gyda Byrddau Iechyd i ganiatáu cleifion i gael triniaeth ynghynt.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n gweithio gyda’r gwasanaeth iechyd er mwyn gwella gwasanaeth trin canser, ond bod y “mwyafrif helaeth” o gleifion canser yn derbyn triniaeth o fewn amserau targed.
“Mae’r Gweinidog Iechyd wedi lansio Gyda’n Gilydd dros Iechyd, cynllun pum mlynedd er mwyn lleihau achosion o ganser a gwella gofal a chyfraddau goroesi.
“Fodd bynnag, mae ein poblogaeth yn heneiddio ac mae nifer y bobol sydd wedi cael diagnosis ac sy’n byw gyda chanser yn cynyddu, ac mae’n ymddangos fod canserau sy’n ymwneud â’n ffordd o fyw hefyd yn cynyddu.”
Mae’r Llywodraeth wedi gwadu y byddai sefydlu Cronfa Gyffuriau Canser yng Nghymru, sef yr hyn mae’r Ceidwadwyr yn galw amdano, yn arwain at wella’r gwasanaeth i gleifion canser.