Yn ôl adroddiadau o Kenya, mae o leiaf pedwar o bobl wedi cael eu lladd mewn damwain awyren ym mharc cenedlaethol y Maasai Mara.
Credir bod dau o ymwelwyr o’r Almaen a dau beilot wedi eu lladd ac mae tri o bobl eraill wedi eu hanafu’n ddifrifol.
Dywedodd pennaeth yr heddlu Peterson Maelo bod pedwar o bobl wedi marw yn y fan a’r lle a bod tri arall wedi eu hanafu’n ddifrifol.
Roedd 14 o deithwyr ar fwrdd yr awyren, oedd yn perthyn i gwmni Mombasa Air Safari – yn eu plith pump o Almaenwyr a phedwar o America. Mae’r teithwyr sydd wedi eu hanafu yn cael eu cludo i Nairobi.
Mae’r Maasai Mara yn atyniad poblogaidd ar gyfer ymwelwyr sydd am fynd ar saffari yn nwyrain Affrica.