Mae nifer o enwau cyfarwydd wedi ymuno mewn ymgyrch i geisio pwyso ar Lywodraeth Prydain i ail-ystyried y penderfyniad i roi cytundeb ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd, sy’n cynnwys gogledd Cymru, i FirstGroup yn hytrach na Virgin Trains.
Mae’r Arglwydd Sugar, y cogydd Jamie Oliver, y canwr Ronan Keating a’r comedïwr Eddie Izzard ymhlith y rhai sy’n cefnogi e-ddeiseb i geisio gorfodi dadl ynglŷn â’r penderfyniad yn Nhŷ’r Cyffredin.
Wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd Llywodraeth Prydain mai cwmni FirstGroup sydd wedi ennill y cytundeb i gynnal y gwasanaethau, sy’n rhan o gytundeb lein fawr gorllewin Prydain.
Roedd Virgin wedi bod yn cynnal y gwasanaeth – sy’n cynnwys y gwasanaeth rhwng gogledd Cymru a Llundain – ers 1997.
‘Gwallgof’
Roedd pennaeth y cwmni, Richard Branson, wedi ymateb yn chwyrn i’r cyhoeddiad gan ddweud fod y broses o geisio am y cytundeb yn “wallgof” – mae hefyd wedi awgrymu na fydd yn cynnig am wasanaethau rheilffyrdd yn y dyfodol.
Mae 50,000 o enwau bellach ar yr e-ddesieb, yn ôl Virgin.
Dywedodd Syr Richard Branson: “Mae hyn yn hwb enfawr i bawb yn Virgin Trains i weld faint o gefnogaeth sydd i ni a’r rhwystredigaeth ynglŷn â phenderfyniad y Llywodraeth.
“Mae’n glir bod ein cwsmeriaid am weld y penderfyniad yn cael ei ail-ystyried ac fe ddylai’r Senedd gael y cyfle i drafod hyn cyn bod cytundeb yn cael ei arwyddo, sydd wedi ei drefnu ar gyfer 28 Awst.”