Mae cwmni ynni SSI wedi cyhoeddi heddiw y bydd prisiau nwy a thrydan yn codi 9%.

Fe fydd y prisiau uwch yn cael eu cyflwyno ar 15 Hydref. Fe fydd yn golygu cynnydd mewn biliau i 5 miliwn o gwsmeriaid trydan a 3.4 o gwsmeriaid nwy.

Mae SSE yn beio’r costau cynyddol i ddefnyddio rhwydwaith y Grid Cenedlaethol am y penderfyniad i godi rhagor am nwy a thrydan.

Dywed SSE na fyddan nhw’n codi prisiau ar ôl mis Hydref tan o leiaf ail hanner 2013.