Mae chwech o bobl, gan gynnwys dwy wraig a dau o blant, wedi cael eu lladd yn ystod gwrthdaro rhwng gwrthryfelwyr a lluoedd llywodraeth Syria yn ninas Daraa, yn ôl adroddiadau.

Daw’r gwrthdaro ar ail ddiwrnod Eid al-Fitr, sef gwyliau sy’n nodi diwedd Ramadan.

Mae’r corff sy’n goruchwylio hawliau dynol yn Syria yn dweud bod ’na wrthdaro yn Namascus ac Aleppo, gyda nifer wedi eu lladd neu eu hanafu.

Ni ellir cadarnhau’r adroddiadau yn annibynnol.