Dug Caeredin
Mae Dug Caeredin, sy’n 91 oed, wedi cael ei ryddhau ar ôl treulio pum noson yn yr ysbyty yn yr Alban.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty yn Aberdeen ddydd Mercher diwethaf, y trydydd tro mewn naw mis iddo dderbyn triniaeth.

Roedd y Dug wedi bod yn sâl adeg cyngerdd y Jiwbilî ar Fehefin 4 a chyn hynny, cafodd driniaeth ar ei galon adeg y Nadolig y llynedd.

Mae’r teulu brenhinol wedi bod yn aros yn eu cartref yn Balmoral yn ystod eu gwyliau blynyddol.

Does dim cadarnhad eto a fydd y Dug yn holliach i fynychu seremoni agoriadol y Gêmau Paralympaidd ar Awst 29.